Cynhelir ein hymgyrch flynyddol Cadw eich Plentyn yn Ddiogel mewn Chwaraeon rhwng 6 a 12 Hydref 2025.
Gall y rhan rydych chi’n ei chwarae yn chwaraeon eich plentyn gael effaith fawr ar sut mae eich plentyn yn teimlo ynglŷn â chwaraeon a gweithgareddau corfforol.
Mae arnom eisiau ei gwneud hi’n haws i chi siarad â’ch plentyn ynglŷn â beth mae cefnogaeth yn ei olygu iddo a sut y gallwch chi ei helpu i ddisgleirio.
Beth bynnag yw nod eich plentyn – cael sgôr sy’n ennill, cael ei amser personol gorau, bod yn aelod da o dîm neu ddim ond mwynhau ei chwaraeon – gall eich cefnogaeth gadarnhaol ei helpu i gyflawni ei nodau.
Mae rhieni yn siarad â'u plant am gymorth mewn chwaraeon.Edrychwch ar y fideo, yna lawrlwythwch ein cwestiynau.
Llwytho i lawr y cwestiynau